Cylchlythyr Mis Hydref 2023

Amdanom di

Cofrestrwch

Swyddi gwag

Y NEWYDDION DIWEDDARAF

Y GWEINIDOG IECHYD YN GWELD ARLOESIADAU DIGIDOL IECHYD A GOFAL DIGIDOL CYMRU (DHCW) AR WAITH

Gwelodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, systemau a gwasanaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar waith yn ystod ymweliadau â swyddfa DHCW yng Nghaerdydd ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot (CNPT) y mis hwn.


Ar ymweliad ag Ysbyty CNPT gwelodd y Gweinidog Iechyd drosti ei hun sut mae cysyniad ward ddigidol newydd yn trawsnewid prosesau dogfennu llafurus ar gyfer staff gofal iechyd a chleifion. Yn allweddol i hyn mae dwy system ddigidol, sef Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) ac e-Ragnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau (EPMA), sy’n cael eu cyflwyno ledled Cymru. Maent yn arbed amser ac yn gwella effeithlonrwydd, yn hybu diogelwch cleifion ac ansawdd gofal, ac yn arbed arian i Fyrddau Iechyd.


Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae manteision y systemau digidol newydd yr ydym yn eu hariannu yn glir i’w gweld. Maent yn symleiddio prosesau gweinyddol ar gyfer staff gofal iechyd ac yn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar ofal cleifion. 



Darllenwch ragor ar wefan DHCW

 PARTNERIAETH NEWYDD YN SYMLEIDDIO YMGYRCH ATGYFNERTHU COVID-19 HYDREF 2023

Mae partneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a Rhaglen Frechu Cymru wedi symleiddio’r broses o gyflawni ymgyrch atgyfnerthu COVID-19 hydref 2023.


Datblygwyd System Imiwneiddio Cymru (WIS) yn fewnol gan DHCW ar ddechrau’r pandemig. Dyma’r system ddigidol ganolog sydd wedi cefnogi gweinyddu dros 9.2 miliwn o frechiadau COVID-19 hyd yma.


Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae DHCW wedi bod yn gweithio'n agos gyda Rhaglen Frechu Cymru yn ogystal â phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau. Sefydlwyd y rhaglen gan Weithrediaeth GIG Cymru fel rhan o Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd sydd â'r nod o ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal yng Nghymru.


Mae’r bartneriaeth agos hon wedi arwain at symleiddio’r ymgyrch atgyfnerthu diweddaraf ar gyfer hydref 2023.


Darllenwch ragor ar wefan DHCW

LLWYDDIANT WASPI YN CAEL EI GYDNABOD GAN ARBENIGWYR YN Y DIWYDIANT

Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn a Thîm Llywodraethu’r Flwyddyn yng ngwobrau Risg GRC World Forums sy’n dathlu rhagoriaeth fyd-eang mewn Llywodraethu, Risg a Chydymffurfiaeth.


Mae WASPI yn set gyffredin o egwyddorion a safonau sy’n cefnogi rhannu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau i bobl Cymru. Mae’r Cytundeb wedi mynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn mae ganddo dros 300 o brotocolau rhannu gwybodaeth ar waith ledled Cymru sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan cyhoeddus WASPI Mae dros 750 o sefydliadau wedi cytuno ac ymrwymo i WASPI. 


Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Dave Parsons: “Mae’r twf hwn o ganlyniad i ymroddiad ac ymrwymiad y bobl yn y tîm dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi bod wrth wraidd y gwaith datblygu cynigion er mwyn gwella’r fframwaith ymhellach i fod yn God Ymddygiad posibl y gellid ei gymeradwyo gan yr ICO.”



Darllenwch ragor ar wefan DHCW

IECHYD A GOFAL DIGIDOL CYMRU YN ENNILL SAFON RYNGWLADOL AR GYFER RHEOLI GWASANAETHAU

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cadw ei achrediad ar gyfer y Safon Ryngwladol ar gyfer Rheoli Systemau (ISO 20000). Yn gynharach eleni cynhaliodd y sefydliad archwiliad allanol helaeth, dros gyfnod o bythefnos, o’r systemau rheoli, y bobl, a'r prosesau sy'n sail i ddatblygiad, darpariaeth a chefnogaeth ein systemau. 


Mae'r ISO 20000 yn safon ryngwladol mewn rheoli gwasanaethau ac mae arbenigwyr yn cytuno mai dyma’r ffordd orau o sefydlu, gweithredu, cynnal a gwella system rheoli gwasanaethau yn barhaus.



Darllenwch ragor ar wefan DHCW

DIWEDDARIADAU PELLACH



Claire Bevan MBE

 

Llongyfarchiadau i Claire Bevan a gafodd amser gwych yng Nghastell Windsor yn derbyn ei MBE am wasanaethau i nyrsio a gofal cleifion. Mae gwaith Claire yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ar Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn storio, rhannu a chyrchu gwybodaeth am gleifion.

Mae DHCW yn croesawu arbenigwyr nyrsio clinigol newydd

 

Wrth i ni ddatblygu Cofnod Gofal Nyrsio Cymru i gynnwys nodiadau cleifion mewnol pediatrig, roedd yn wych croesawu’r nyrsys clinigol arbenigol newydd o fyrddau iechyd ledled Cymru i DHCW yn gynharach y mis hwn. Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw i gyd gyfarfod wyneb yn wyneb i ddechrau'r gwaith o safoni dogfennaeth.



Diwrnod arddangos caledwedd

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ddiwrnod arddangos caledwedd, lle bu aelodau o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yn mynd i sesiynau i glywed am syniadau gyda chyflenwyr a chlinigwyr. 

DIGWYDDIADAU I DDOD

13 - 14 Tachwedd 2023


Cynhadledd a Gwobrau ITSM23


Cynhadledd rheoli gwasanaethau blaenllaw Ewrop. Gyda mwy na 50 o gyflwyniadau o bob rhan o’r diwydiant ynghyd â’r Gwobrau Rheoli Gwasanaethau Proffesiynol, mae ITSM23 yn cynnig llu o gynnwys, trafodaethau a chyfleoedd rhwydweithio gwych.


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Gwybodaeth am ITSM23

14 Tachwedd 2023


Fforwm Polisïau Cymru


Bydd y gynhadledd hon yn trafod y camau nesaf ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru. Bydd yn gyfle amserol i randdeiliaid a llunwyr polisi archwilio’r strategaeth iechyd meddwl newydd a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi, yn dilyn diwedd y Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn 2022.


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Y camau nesaf ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru


dhcw-enquiries@wales.nhs.uk
Facebook  Twitter  Linkedin  Youtube  Instagram
dhcw.nhs.wales
igdc.gig.cymru