EIN GWELEDIGAETH:

“Gwneud rhagnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau ym mhobman yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol, i gleifion a gweithwyr proffesiynol drwy ddull digidol.”

CROESO I GYLCHLYTHYR MODDION DIGIDOL 

Mai 2024

Croeso i rifyn mis Mai o gylchlythyr Moddion Digidol. Efallai y byddwch wedi sylwi ein bod wedi addasu ein brand a bod gennym enw newydd sy’n adlewyrchu newid i’n strwythur rheoli. Ond peidiwch â phoeni: Mae ein pedair rhaglen a phrosiect yn parhau fel oedden nhw ac yn mynd o nerth i nerth! Cewch hyd i fwy o wybodaeth am hyn yn ein diweddariad isod, ynghyd â’r newyddion diweddaraf am y gwasanaeth presgripsiynau electronig, cyfweliad hynod ddiddorol am sut y bydd systemau digidol newydd mewn ysbytai yn gwella canlyniadau cleifion, a llawer mwy. 

COFRESTRWCH I GAEL POB CYLCHLYTHYR

Moddion Digidol: Enw newydd - yr un ffocws, gweledigaeth a darpariaeth   

Moddion Digidol yw’r enw newydd ar ein rhaglenni a’n prosiectau sy’n trawsnewid meddyginiaethau a phrosesau rhagnodi yng Nghymru.  

  

Ers 1 Ebrill eleni mae’r pedair rhaglen a phrosiect cysylltiedig, a oedd gyda’i gilydd yn ffurfio’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, wedi’u cynnwys yn y portffolio ehangach o raglenni cenedlaethol a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). 

  

Y rhaglenni a’r prosiectau yw: 

  

  • Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) mewn gofal sylfaenol 
  • Rhaglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) mewn gofal eilaidd 
  • Cofnod Meddyginiaethau a Rennir 
  • Mynediad cleifion i wybodaeth am feddyginiaethau drwy Ap GIG Cymru 

  

Mae’r rhaglenni a’r prosiectau hyn bellach yn cael eu hadnabod gyda’i gilydd fel Moddion Digidol. Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol pwrpasol bellach wedi cau, ar ôl trosglwyddo i’r portffolio cyffredinol a reolir gan IGDC.  

  

Mae integreiddio ag IGDC yn rhan o newidiadau ehangach i’r broses o reoli rhaglenni iechyd digidol cenedlaethol er mwyn  gyrru cydlynu, alinio a darparu symlach. 

  

Mae’r enw newydd yn adlewyrchu’r newidiadau llywodraethu hyn wrth adeiladu ar y cynnydd a wnaed ym mhob rhaglen. Bydd y rhaglenni unigol yn parhau i gyflawni’n gyflym drwy gydweithredu ac ymgysylltu â phartneriaid iechyd a gofal a chyflenwyr y diwydiant. 

  

Dywedodd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth IGDC: “Mae rhaglenni a phrosiectau Moddion Digidol wedi gwneud cynnydd aruthrol ers eu sefydlu ddwy flynedd yn ôl. Mae’r symud hwn i integreiddio â phortffolio ehangach o raglenni cenedlaethol IGDC yn gam naturiol tuag at un portffolio strategol o raglenni trawsnewid digidol. 

  

“Mae Moddion Digidol yn gwbl hanfodol i wella gofal trwy foderneiddio prosesau nad ydyn nhw wedi newid ers degawdau. Mae ein gweledigaeth ar gyfer presgripsiynu’n gwbl ddigidol ar draws pob lleoliad gofal a’n hymrwymiad i’n partneriaid a’n rhanddeiliaid yn dal yr un fath.” 

  

Yn dilyn adolygiad annibynnol o bresgripsiynu a gynhaliwyd yn 2021, sefydlwyd rhaglenni a phrosiectau Moddion Digidol gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2022 ac fe’u trefnwyd yn bortffolio pwrpasol. Ym mis Ebrill 2024 symudodd y rhaglenni i drefniant rheoli portffolio ehangach sy’n cynnwys rhaglenni trawsnewid digidol cenedlaethol eraill. 

EITEM FFOCWS :

HOLI AC ATEB: GWELLA CANLYNIADAU CLEIFION TRWY RAGNODI A GWEINYDDU MEDDYGINIAETHAU’N ELECTRONIG 

Gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi dewis NerveCentre yn ddiweddar fel ei gontractwr dewisol i ddarparu presgripsiynu digidol yn ei ysbytai, mae gwelliannau diriaethol i reoli meddyginiaethau yng Nghymru gam yn nes. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn edrych ar y manteision a ddaw yn sgil Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. I ddechrau’r gyfres, cawsom sgwrs â’n Harweinydd e-Rhagnodi mewn Ysbytai, James Goddard. 



MD: Helo James! Beth yw eich cefndir a’ch diddordeb mewn iechyd a gofal digidol? 

JG: Rydw i wedi ymddiddori mewn technoleg ers pan oeddwn i’n blentyn. Er mor ddiflas ag y mae hyn yn swnio, roeddwn i wrth fy modd yn helpu mewn clwb cyfrifiaduron bob amser cinio yn yr ysgol uwchradd. Rwy’n gweld nawr mai ymgais gynnar oedd hon i helpu pobl i helpu eu hunain yn ddigidol. Ar ôl nifer o flynyddoedd fel fferyllydd clinigol, fe wnes i MSc mewn Gwybodeg Iechyd a diploma Dadansoddi Busnes Rhyngwladol Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS). Ac ar hyn o bryd rwy’n gwneud cwrs MSc mewn Trawsnewid Digidol. 

  

MD: Beth wnaeth eich denu chi i’ch rôl bresennol? 

JG: Wrth weithio mewn ysbyty ac ystyried meddyginiaethau cleifion bob dydd, roeddwn i’n aml yn teimlo’n rhwystredig oherwydd y llifoedd gwaith aneffeithiol, yn enwedig pan oedd y broses yn cynnwys cipio a defnyddio data. Yn fy rôl bresennol, rwy’n gallu helpu i gefnogi gwelliannau i gleifion a staff, gan ddefnyddio ePMA yn benodol i sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael yn y lle iawn ac ar yr amser iawn. Yn y pen draw, rydyn ni’n gallu gwella ac optimeiddio canlyniadau cleifion trwy ofal mwy effeithlon a mwy diogel. 

  

MD: Beth yw eich blaenoriaethau uniongyrchol? 

JG:  Mae angen i ni edrych ar sut y gellir gwneud pethau unwaith ac yna eu rhannu sawl gwaith i gefnogi gofal di-dor a diogel i gleifion a staff. Un flaenoriaeth uniongyrchol yw gwella cysondeb, diogelwch a defnydd safonau trwy weithio gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru, a rhagweld lle gallai amrywiadau ymddangos. 

   

MD: Beth yw eich gweledigaeth hirdymor? 

JG: Rydw i am sicrhau y gellir defnyddio gwybodaeth am feddyginiaethau ac alergeddau yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gywir ar draws pob lleoliad gofal iechyd. Yn y pen draw, bydd hyn yn cysylltu’r pwyntiau o’r problemau i’r canlyniadau, ac yna’n arwain at wybodaeth fusnes ac ymchwil mwy effeithlon a’r ddarpariaeth gofal meddyginiaethau gorau posibl.  

   

MD: Beth fydd y prif fanteision i gleifion? 

JG: Y prif fanteision fydd gofal gwell, mwy diogel a mwy amserol, gan osod sylfaen i gleifion chwarae rôl fwy yn eu gofal. Bydd hefyd yn agor y drws i GIG cynaliadwy ac arloesi yn y dyfodol.” 


NEWYDDION MODDION DIGIDOL

Invatech Health yn derbyn caniatâd i gyflwyno rhagnodi electronig ledled Cymru  

Mewn carreg filltir gyffrous arall ym maes rhagnodi electronig yng Nghymru, mae Invatech Health, y cyflenwr systemau fferyllol, wedi derbyn caniatâd i gyflwyno ei dechnoleg ledled Cymru. 

Mae profion byw llwyddiannus wedi’u cwblhau ar safle yng Ngogledd Cymru, sy’n golygu mai Invatech yw’r cyntaf o gyflenwyr y system fferylliaeth gymunedol i fod yn barod i’w ddefnyddio’n ehangach ledled Cymru. 


Mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn galluogi practisau meddygon teulu i anfon presgripsiynau’n electronig i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb fod angen ffurflen bapur. Ym mis Tachwedd 2023, cleifion yn y Rhyl oedd y cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio presgripsiynau electronig, drwy system meddygon teulu EMIS Group a’r system fferyllfeydd Titan gan Invatech. Ers hynny, mae cleifion yng Nghonwy hefyd wedi cael budd o EPS, gan gynnwys rhai sy’n casglu presgripsiynau o fferyllfa Gwynan Edwards ym Mhenmaenmawr, sydd hefyd yn defnyddio’r system Titan. 


Dywedodd Jenny Pugh-Jones, sy’n arwain y rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig Gofal Sylfaenol: “Rwyf wrth fy modd bod gennym ein cyflenwr system fferylliaeth gymunedol achrededig cyntaf. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol wrth i ni ddechrau ei gyflwyno ac mae’n dangos y cydweithrediad rhwng pawb dan sylw.”  


Dywedodd Tariq Muhammad, Prif Weithredwr Invatech: “Rydym wrth ein bodd mai ein system cofnodion meddyginiaeth cleifion (PMR) yw’r gyntaf i gael ei chymeradwyo ar gyfer defnydd EPS yng Nghymru. Bydd yn cynnig llawer o fanteision i gwsmeriaid Titan presennol a’u cleifion, ac rydym yn edrych ymlaen at alluogi fferyllfeydd eraill i elwa o’r manteision hyn hefyd.” 

 

Cefnogwyd y datblygiad hwn gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned, a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moddion Digidol ar ran Llywodraeth Cymru. Darllenwch y stori lawn am gymeradwyo Invatech yma. 

Placiau coffa yn nodi’r defnydd cyntaf o

Wasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru  

Mae’r feddygfa a’r fferyllfa gyntaf i ddefnyddio presgripsiynau electronig yng Nghymru wedi’u hanrhydeddu â phlaciau coffa. 

Rhoddodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) y placiau i Ganolfan Feddygol Lakeside a Fferyllfa Wellington Road yn y Rhyl i nodi eu rôl fel arloeswyr gyda’r gwasanaeth presgripsiynau electronig newydd (EPS). 


Wrth gyflwyno’r placiau, dywedodd Jenny Pugh-Jones, arweinydd IGDC ar EPS, “Rydym yn falch iawn o gydnabod mewnbwn hanfodol Canolfan Feddygol Lakeside a Fferyllfa Wellington Road. Mae eu cydweithrediad wedi bod yn hollbwysig wrth helpu i lansio gwasanaeth cenedlaethol newydd a fydd yn newid yn llwyr y ffordd y caiff presgripsiynau eu rheoli, gan gynnig gwasanaeth gwell, mwy cyfleus i gleifion ar yr un pryd. 


“Rydym ni hefyd yn ddiolchgar i’r cleifion, y rhai cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio presgripsiynau electronig. Rydym yn cydnabod cefnogaeth werthfawr pawb a gymerodd ran.” 



Dywedodd Charlotte Smith, Prif Fferyllydd Wellington Road, “Mae hwn yn chwyldro ar gyfer gwasanaethau presgripsiwn ac yn un o’r defnyddiau mwyaf effeithiol o dechnoleg fodern rydw i wedi dod ar ei draws. Ers mis Tachwedd rydym wedi dosbarthu mwy na 5,000 o eitemau presgripsiwn gan ddefnyddio’r gwasanaeth electronig a dim ond tyfu fydd hyn yn y dyfodol.” 


Darllenwch y stori lawn yma.  

Cynllun sicrwydd Caerdydd a’r Fro ar waith i ddarparu Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn electronig  

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCF) yn gwneud cynnydd da gydag ePMA yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Mawrth ei fod wedi dewis Nervecentre fel ei gyflenwr. 



Mae’r tîm ePMA bellach yn gweithio trwy ofynion sicrwydd clinigol a thechnegol ar gyfer y system newydd ar ôl i’w Gynllun Sicrwydd Ansawdd gael ei gymeradwyo gan Grŵp Sicrwydd Gwybodeg Cymru (WIAG) ym mis Chwefror.  

 

Mae Moddion Digidol yn gweithio gyda chydweithwyr yn y bwrdd iechyd i gynhyrchu pecyn cymorth cyfathrebu ePMA a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion ar hyn yn fuan. Peidiwch ag anghofio ein bod hefyd wedi sefydlu Cymuned Gwybodaeth a Gweithredu i gefnogi’r gwaith o ddarparu ePMA, ac os ydych yn gweithio i fwrdd neu ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru gallwch gymryd rhan. Cynhelir cyfarfod nesaf y gymuned ar 20 Mehefin am 1pm. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio DHCW.ePMA@wales.nhs.uk.  

 

Profion yn parhau i sicrhau y gellir storio gwybodaeth wedi’i chodio yn y

Cofnod Meddyginiaethau a Rennir  


Mae gwaith yn parhau ar Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (API) y Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR) i sicrhau y gellir rhannu gwybodaeth sydd wedi’i chodio am feddyginiaethau ac alergeddau â systemau priodol a’u storio mewn ffordd safonol. Mae profion mewnol ar y gweill gyda chymorth y rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol (NDR). 

NEWYDDION Y TÎM 

Dyma’ch cyfle i ddarganfod beth mae aelodau ein tîm wrthi’n ei wneud! Y mis yma rydym yn croesawu ein cydweithiwr mwyaf newydd Clarissa, a ymunodd â ni yn ddiweddar o’r Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol. 

Clarissa Wong, Swyddog Cefnogi Prosiect EPS


Ymunodd â Moddion Digidol: Ebrill 2024  

 

Rydw i wedi dod i Moddion Digidol o dîm y Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol, ar ôl ymuno â nhw fel Uwch Swyddog Cymorth Prosiect ym mis Ionawr 2023 i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau a rhaglenni sy’n ymwneud â ffrydiau gwaith y Gweithlu ac Addysg a Chynllunio Adnoddau Strategol. Cyn hynny, roeddwn i mewn rôl debyg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ôl adleoli i’r DU ym mis Gorffennaf 2022.  

 

Dechreuodd fy nhaith yn y diwydiant gofal iechyd dros ddegawd yn ôl pan oeddwn - nôl yn Hong Kong - yn gweithio ochr yn ochr â thimau amlddisgyblaethol a gweithwyr meddygol proffesiynol ym maes gweinyddu ysbytai ac ar brosiectau amrywiol ledled ysbytai. Rwy’n awyddus i fod yn rhan o’r tîm deinamig sy’n llywio’r gwaith o ddigideiddio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â chydweithwyr i gyflawni’r weledigaeth hon. 

  

Mae gan Gymru dirwedd syfrdanol ac mae gen i restrau diddiwedd o bethau rydw i eisiau eu gweld a’u gwneud! Rwy’n edrych ymlaen at wneud y gorau o’r cyfle drwy archwilio’r mynyddoedd, yr arfordir, y dyffrynnoedd a phopeth sydd yma. 

Digwyddiadau Moddion Digidol ac Ymgysylltu 

Ymwelodd aelodau o dîm ePMA Moddion Digidol â chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ym mis Ebrill wrth iddyn nhw ddechrau dysgu sut mae system ddigidol Nervecentre yn gweithio.  

 

Fel y nodwyd yn ein cylchlythyr ym mis Mawrth, bydd y system newydd yn disodli’r siartiau cyffuriau papur a gedwir ar hyn o bryd wrth droed gwely cleifion, a bydd yn galluogi rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau’n fwy diogel. Bydd y system hefyd yn galluogi gwirio alergedd a rhyngweithio cyffuriau, gan leihau’r tebygolrwydd o gamgymeriadau meddyginiaeth, a gwella gofal cleifion. 

 

Roedd y Cadeirydd Goruchwylio Rhaglen ePMA Gofal Eilaidd Dr Lesley Jones, y Rheolwr Rhaglen Louise Gregory, Prif Bensaer Cynorthwyol IGDC Rhian Rice, a’r Swyddog Gwybodeg Glinigol Arweiniol Nyrsys Meddyginiaethau Amy Mumford ymhlith y rhai a ymwelodd â thîm BIPCF. Dywedodd Dr Jones: “Mae tîm ePMA Caerdydd a’r Fro yn dod i ddeall y system Nervecentre ac fe ddangoson nhw faint o wahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud mewn ymarfer clinigol.  

 

“Roedd cyffro’r tîm yn amlwg ac roedd hi’n wych gweld y potensial i’r holl wybodaeth fod ar flaenau eu bysedd yn y lleoliad clinigol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda BIPCF tra bod y system yn cael ei chyflwyno a gweld ei gwir werth clinigol i staff gofal iechyd a chleifion.” 

 

Ychwanegodd Sandra Watts, Uwch Nyrs ePMA yn BIPCF: “Roedd hi’n wych gallu croesawu cydweithwyr IGDC a rhannu gyda nhw’r ffyrdd rydym yn gobeithio y bydd y system newydd hon yn gwella gofal cleifion a phrofiad staff. 

 

“Mae’r system hon yn newid diwylliannol enfawr i’n staff a’n cleifion a hefyd i’n timau cymorth, sy’n gofyn am wahanol ffyrdd o weithio. Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda Nervecentre i ffurfweddu’r system i ddiwallu ein hanghenion fel Bwrdd Iechyd ac rydym yn edrych ymlaen at ei gweithredu a’r buddion y byddwn yn eu gweld.” 


Ffoto: Cadeirydd Goruchwylio Rhaglen ePMA Gofal Eilaidd Dr Lesley Jones

Cofrestrwch ar gyfer ein dosbarth meistr e-ragnodi nesaf 

Peidiwch â cholli’r Dosbarth Meistr e-Ragnodi nesaf, a gynhelir ar-lein ddydd Mercher, 5 Mehefin. Mae’r gyfres hon yn cynnwys gweminar Dosbarth Meistr fisol i sefydliadau’r GIG rannu eu dysgu a’u profiadau ar drawsnewid digidol. Mae hefyd yn galluogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i ddilyn yn ôl traed eraill mor gyflym ac effeithiol â phosibl. 


Gallwch gofrestru yma: Dydd Mercher 5 Mehefin 2024. 

Fframwaith ePMA yn Ennill Gwobr Genedlaethol 

Cafodd tîm Gwasanaethau Masnachol IGDC ei gydnabod yng Ngwobrau GO y DU gyfan am ei waith yn datblygu a sefydlu’r fframwaith Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA), sy’n galluogi byrddau iechyd i gaffael systemau gan dri chyflenwr y cytunwyd arnynt. 

 

Enillodd y tîm y wobr ‘Darparu Caffael’ am y fframwaith e-ragnodi a’r cytundeb fferylliaeth ysbytai, yn ogystal â chipio’r wobr ‘Rhagoriaeth Caffael’ am berfformiad cyffredinol gorau gan dîm caffael ar draws sector cyhoeddus y DU. 

 

Roedd y fuddugoliaeth ddwbl yn golygu mai’r tîm Gwasanaethau Masnachol oedd enillwyr cyffredinol Gwobrau GO 2023/24.  

 

Dywedodd Matthew Perrott, Uwch Arweinydd Caffael, Gwasanaethau Masnachol: “Mae’n foment arbennig iawn, nid yn unig i’r tîm Gwasanaethau Masnachol, ond i IGDC. Cafodd y gwaith caffael a wnaed i gyflawni’r Cytundeb Fferylliaeth Ysbytai a’r Fframwaith e-Ragnodi ei gydnabod fel y Cyflenwi Caffael Gorau yn y DU. 

 

“Ar ôl ennill y categori hwnnw, cawsom ein hystyried wedyn yn erbyn enillwyr yr holl gategorïau eraill ar gyfer gwobr yr enillydd cyffredinol ledled y DU yn 2024... ac ennill, a chael ein hanrhydeddu â gwobr Rhagoriaeth Caffael. 

 

“Mae hyn yn dangos, pan fydd IGDC a’n partneriaid ledled Cymru yn cydweithio, ein bod yn arwain y DU, gan osod esiampl o gydweithio, ymgysylltu a llwyddiant.” 


Ffoto: Matthew Perrott, Uwch Arweinydd Caffael, Gwasanaethau Masnachol

Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff IGDC 2024 

Mae’r tîm EPS yn dathlu ar ôl cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Cydnabyddiaeth Staff IGDC. Enwebwyd aelodau’r tîm ar gyfer gwobr Tîm y Flwyddyn a gwobr Cydweithio ac Ymgysylltu Gorau yn y gweithle a chyda phartneriaid. 


Enwebwyd nifer o aelodau tîm Moddion Digidol hefyd ac rydym yn siŵr y byddwch yn ymuno â ni wrth longyfarch pawb sydd wedi’u henwebu ac ar y rhestr fer – dyma gydnabyddiaeth haeddiannol am yr holl waith sydd wedi’i gyflawni ar draws Moddion Digidol.  


Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 12 Mehefin – pob lwc i bawb ar y rhestr fer! 

Dysgu rhagor

Mae Moddion Digidol yn gwneud presgripsiynu, rhoi a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon ac effeithiol ar gyfer cleifion a gweithwyr proffesiynol, a hynny drwy systemau digidol. Sefydlwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cydlynu, cefnogi a sicrhau aliniad strategol o bedwar maes gwaith sy’n wahanol ond yn rhyng-gysylltiedig. Gyda’i gilydd byddant yn sicrhau’r buddion cyffredinol isod:   


  • Darparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) mewn gofal sylfaenol 
  • Cyflwyno’r system Ragnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) mewn ysbytai yng Nghymru 
  • Datblygu Cofnod Meddyginiaethau a Rennir 
  • Swyddogaeth meddyginiaethau a mynediad i gleifion gydag Ap GIG Cymru 


Os hoffech wybod rhagor am ein gwaith neu os oes gennych awgrym ynglŷn â sut y gallwn ymgysylltu â chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!   



E-bost: DigitalMedicines.Comms@wales.nhs.uk, ewch i’n tudalennau gwe neu dilynwch IGDC ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.  

Facebook  Instagram  LinkedIn  X  YouTube
X Share This Email
LinkedIn Share This Email